DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach

DYDDIAD

07 Mehefin 2023

GAN

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

 

 

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi mynd i’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach ar 25 Mai.

 

Roedd y canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

 

     Y Gweinidog Huddleston, Y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Busnes a Masnach.

     Y Gweinidog Lochead, Gweinidog yr Alban dros Fusnesau Bach, Masnach ac Arloesi.

     Y Gweinidog Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Swyddfa Cymru.

 

Y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach yw’r prif fforwm i drafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a Llywodraeth yr Alban.

 

Yn y fforwm, fe wnaethom drafod yr wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau parhaus ynghylch y Cytundeb Masnach Rydd gydag India a Chanada a’r Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda nifer o daleithiau Unol Daleithiau America. Bydd cyd-hysbysiad ynghylch y cyfarfod yn cael ei gyhoeddi maes o law.